
ALT Wrth siarad am Sioe Frenhinol Cymru eleni dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “Mae bwyd yn hanfodol i iechyd ein pobl a’n planed. “Un o fy ffocws mwyaf hyd yn hyn fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw gwthio am strategaeth fwyd genedlaethol. “Rydyn ni’n dechrau gweld ffordd ymlaen i bolisi bwyd yng Nghymru – ond mae llawer o ffordd i fynd. Rwy’n croesawu cyhoeddiad Bwyd o Bwys Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, sy’n amlinellu am y tro cyntaf sut mae polisi bwyd trawslywodraethol yn cefnogi nodau llesiant Cymru. Nawr rwy’n annog gweinidogion i osod cyfeiriad ar gyfer bwyd, gan gynnwys pobl, diwydiant a ffermwyr. Mae angen strategaeth hirdymor arnom sy’n nodi sut y gall pawb yng Nghymru gael gafael ar fwyd iach, fforddiadwy a chynaliadwy. Mae Sgwrs Bwyd y Comisiwn Bwyd, Ffermio, Cefn Gwlad yn dangos bod y cyhoedd yng Nghymru eisiau mynediad at fwyd iachach a chyfyngiadau ar fwydydd wedi’u prosesu’n
























